July 23, 2017

Blog

Home / Uncategorized / WYTHNOS TREFTADAETH CYMRU, MADISON 2007 WELSH HERITAGE WEEK, MADISON 2007

WYTHNOS TREFTADAETH CYMRU, MADISON 2007 WELSH HERITAGE WEEK, MADISON 2007

0

by Rhodri Jones

 

Ers nifer o flynyddoedd, erbyn hyn, ces y fraint o fod yn diwtor ar Wythnos Treftadaeth Cymru. Mae’r profiad wedi bod yn ddiddorol a dweud y lleiaf. Mae cwrdd yn flynyddol i gael chwistrelliad o ddiwylliant yn rhan annatod o wneuthuriad y Cymry. I ni yma mae wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi yr un fath o wefr ond dim ond rhyw 250 o filltiroedd yw Cymru o Went i Fôn mae aelodau WTC yn teithio dipyn yn bellach. O gofio hyn a sylweddoli’r ymdrech mae’r aelodau yn rhoi mae’n gwneud i ni sy’n teithio atynt deimlo balchder yn eu llwyddiannau a gostyngeiddrwydd wrth weithio yn egni eu brwdfrydedd.

Eleni cynhaliwyd yr wythnos yn Madison dan drefniadaeth y bonwr Danny Proud. Rhedodd yr popeth fel “watch”. Arweiniwyd yr wythnos gan Beth Landmesser ac aelodau arall y Bwrdd. Mae hanesion di-ri am weithgareddau’r wythnos ond y tro hwn mi geisia i gadw at gynnyrch yr Eisteddfod. Cynhelir eisteddfod fawreddog ar ddiwedd yr wythnos a disgwylir i bob aelod gymryd rhan, boed yn ganu, adrodd, ysgrifennu ac ati. Dros y blynyddoedd mae cynnyrch yr eisteddfod wedi bod yn uchel iawn o ran safon ond eleni cafwyd ymatebion gwych i’r cystadlaethau a osodwyd. Rwyf am gyflwyno rhai a chadw ambell un arall er mwyn eu cynnwys mewn erthyglau achlysurol yn y dyfodol (gyda chaniatâd y golygydd).

For a number of years, by now, I have been privileged to be a tutor on the Welsh Heritage Week. This had been an interesting experience to say the least. Meeting annually to get a fix of culture is an intrinsic part of the Welsh psyche. For us, here a week at the National Eisteddfod gives us this fix but there are only some 250 miles from Gwent to Anglesey and the members of WHW travel considerably further. When we remember this and realise the effort that the members make, we who travel to be with them feel a great pride in their achievements and much humility in the energy of their enthusiasm.

 

This year the week was held at Madison and organised by Danny Proud. Everything ran like a watch. It was led by Beth Landmesser and the other members of the Board. There are innumerable stories about the activities of the week but this time I shall endeavour to keep just to the produce of the Eisteddfod. A grand eisteddfod is held at the end of the week and each member is expected to take part, be it singing, reciting, writing etc. Over the years the materials produced at the eisteddfod have been of a high Standard but this year the entries for the competitions set were exceptional. (With the editor’s permission) I would like to hold back a few of the entries in order to introduce them in an occasional article in the future.

“Y Senedd/The Senate” was the title set for the poetry competition, this referring to our new system of government here in Wales. Many poems were produced but I will include here only the winner and the runner up.

Senate – Stephen Jones

( A variation on cynghanedd draws)

Blood in the field where Blodeuwedd first stood,
Salt in the wounds where the soil traps the blood.
Poison tracked in where the peasants once slept,
Planting foul seeds where y plentyn was kept.
O sacred groves, not just scarred but now bare
O where have you gone, O woods once so fair?
Parliament furniture – pearls to the mud.
Why haven-veins have you lost not your blood?
Y Cymry, the few, come running, walking,
Standing together, sitting and talking
About the borders between lines – and lands,
The form of cynghanedd, the far reaching hands,
Demand independence from a damned occupation
And ‘till then the Senate stirs anticipation.

 

Y Senedd – Robert Humphries

(Cerdd ddychanol yn iaith y dafarn)

Y dydd pan ddaeth y Cwîn i lawr
O Lundain yn y trên,
Yn ôl y plan swyddogol
Rhaid i bopeth fod yn glên.

I agor Senedd Cymru oedd
Pwrpas ei hymweliad
Rhoi sêl bendith arnon ni
A dathlu’r datganoliad.

O flaen y grisiau, seindorf bres,
Brenhinol goch eu lliw,
Yn canu “Ymdaith Harlech”,
Fel yn y ffilm “Zulu”. (efallai Ziw liw?)

Ac ar fraich Ei Mawrhydi
Dafydd El ei hun,
Yn ymddwyn fel ci ffyddlon
Yn ôl ysbryd “Ich Dien”.

Plant bach ysgol yn lluosog
Yn chwifio’r “Wniwn Jac”,
Ond myfyrwyr y Gymdeithas
Yn dechrau mynd yn grac.

Tu ôl i’r llenni, Rhodri M.,
Yn rhannu bot o de,
‘Da Ieuan Wyn o’r Blaid i roi’r
Torïaid yn eu lle.

Digon i wneud i’r ddynes haearn
Droi rownd a rownd ‘n ei bedd,
(O! Sorri fe anghofiais i
Mae’n dal i fyw mewn hedd.)

Wnaiff y Senedd adlewyrchu
Breuddwyd Glyn D?r ddewr yn iawn?
Efallai na â’i fynd mor bell
A chredu hyn yn llawn.

Ond wrth glywed beirniadaethau
Datganoli codaf gri:
“Efallai i fod e’n llanast,
Ond mae ein llanast ni.”

Recommended Posts
Contact Us

We're not around right now. But you can send us an email and we'll get back to you, asap.